Neidio i'r cynnwys

Lens (anatomeg)

Oddi ar Wicipedia
Lens
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathdarn o organ, lens, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan ollygad Edit this on Wikidata
Cysylltir gydazonule of Zinn, vitreous humour Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscapsule of lens Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corffyn deuamgrwm (biconvex) ystwyth tra thryloyw sydd wedi’i leoli rhwng iris ac hylif gwydrog (vitreous humour) y llygad yw’r lens crisialog (neu lens grisialog). Ynghyd â’r gornbilen (cornea), mae’n helpu plygu golau sy’n cael ei ffocysu ar y retina. Drwy newid siâp, mae’r lens yn newid hyd ffocws y llygad fel y gall canolbwyntio ar wrthrychau sydd ar bellderau amrywiol. Mae hyn yn caniatau delwedd real o’r wrthrych dan sylw i gael ei daflu ar y retina. Gelwir newid yn nhrwch y lens yn ymgymhwyso (accommodation). Dyma broses sy’n debyg i’r un mewn camera wrth dynnu delwedd, ble mae’r lensiau yn cael eu symud wrth ffocysu. Mae lens y llygad yn fwy wastad yn y blaen nac ar yr ochr tu ôl.